Gwybodaeth cefndir – Mae Huw Marshall yn ymgynghorydd cyfryngol a strategydd digidol, mae ganddo bron i 30 mlynedd o brofiad yn y gofod cyfryngol yng Nghymru a’r DU. Rhwng Tachwedd 2012 a Medi 2016 bu’n gyfrifol am arwain gweithgaredd digidol S4C yn creu a gweithredu strategaeth ddigidol cyntaf y sianel. Gellir darllen mwy am ei waith presennol ac erthyglau sydd â pherthnasedd i’r ymgynghoriad hwn wrth ymweld a www.marshall.cymru

Cyd-destun - Y dirwedd ddarlledu

1        Yn ôl yn 1982 pan lansiwyd S4C roedd creu sianel deledu oedd yn cynnig arlwy Cymraeg yn yr oriau brig yn neud synnwyr, roedd y gynulleidfa yn fodlon ar dderbyn cynnwys o safon o fewn sianel dwy ieithog gan ei fod yn cynnwys rhaglenni gan Channel 4 oedd ddim ar gael i wylwyr yng Nghymru.

2        Y pryd hynny dim ond 4 sianel oedd yn bodoli ag oedd perchnogaeth o VCR’s yn isel, dim ond 10% o gartrefi oedd a mynediad i un. Gwylio byw yn y cartref oedd yr unig ddewis.

3        Heddiw 35 mlynedd yn ddiweddarach mae’r dirwedd darlledu yng Nghymru wedi newid tu hwnt i bob disgwyl. Mae yna gannoedd o sianeli ar gael i wylio ac mae gwasanaethau cymharol newydd fel Netflix, Amazon a YouTube yn golygu fod oriau di rif o gynnwys ar gael i wylio ar amryw o blatfformau. Heddiw mae dros 8 biliwn o weldiadau o gynnwys fideo yn digwydd yn ddyddiol ar Facebook. Mae rhwydweithiau cymdeithasol yn prysur ddatblygu’n llwyfannau darlledu. Rhwng Awst 2016 a Rhagfyr 2016 fe welodd S4C cynnydd o dros 300% i dros 2,200,000 o weldiadau fideo o’i chynnwys mewn mis ar-lein, y mwyafrif ar Facebook.

4        O ystyried dyfodol S4C ac wrth ymateb i’r 5 maes a nodwyd yn benodol yn yr ymgynghoriad hwn mae’n hanfodol ein bod yn cydnabod y newid yn y dirwedd darlledu ond yn bwysicach dau newid sylweddol yma yng Nghymru, yn gyntaf y newid yn arferion gwylio, derbyn a rhannu cynnwys y gynulleidfa. Ag yn ail y newid yn nemograffeg Cymry heddiw, eu hoedrannau a lleoliadau daearyddol. 

5        Cyn mynd ati i gynnig ymatebion mae angen ystyried pwy yw cynulleidfa S4C heddiw? Pa fath o gynnwys maent yn dymuno gwylio ag yn lle maent yn dymuno ei wylio.

6        Mae’n rhaid gofyn y cwestiwn sylfaenol a’i model “sianel deledu” yw’r ffordd orau ymlaen i S4C ac os taw na yw’r ateb, yn rhannol neu yn ei chyfanrwydd, beth ddylid datblygu yn ei le? Mae ymchwil a data yn amlygu fod arferion “Millennials”, sef trwch siaradwyr Cymraeg heddiw, yn symud i ffwrdd o ddarlledu traddodiadol at lwyfannau a chynnwys newydd. 

7        Dwi’n siŵr fydd digonedd o ymatebion sy’n edrych ar ddatrysiad i’r 5 pwynt trafod megis, cyllido, cylch gwaith, llywodraethant, y perthynas a’r BBC a Gwelededd S4C ar EPG’s ar sail y fodel bresennol o sianel deledu sy’n gweithredu ar ymylon y byd digidol.

8        Hoffwn felly ymateb drwy gynnig alternatif, un sy’n ymateb i’r 5 pwynt.

9        Dyfodol “Darlledu”

10      Mae’r data yma gan Nielsen yn dangos y newid yn arferion ymysg cynulleidfaoedd yn yr UDA. Noder y gostyngiad ymysg yr ifanc. Mae’r un peth yn digwydd yma yng Nghymru.

11      Mae 54.6% o siaradwyr Cymraeg (yn ôl cyfrifiad 2011 yn “Millennials”, ac mae’n debyg, chwe blynedd yn ddiweddarach fod y canran yma’n uwch erbyn hyn). O ystyried fod mwyafrif o wylio unionlin S4C yn cael ei wneud gan bobol 65+ sef 16.1% o siaradwyr Cymraeg mae yna ofyn amlwg i chwilio am ddatrysiad newydd i ddarlledu a dosbarthu cynnwys yng Nghymru.

12      Y grediniaeth oedd bod yr ifanc yn dychwelyd at deledu unionlin wrth iddynt aeddfedu, mae’n ymddangos taw nid hyn fydd y patrwm yn y dyfodol.

13      Ariannu digonol.

14      Mae S4C ar hyn o bryd yn derbyn cyllideb o £84 miliwn, mae tua 81% o’r cyllid hyn, £68.5 miliwn, yn mynd ar gynnwys. Mae modd yna dosrannu’r gwariant cynnwys i dair elfen graidd:

15      Talent – Staff cynhyrchu a thechnegol, actorion, cyflwynwyr, perfformwyr, awduron, cerddorion ayb,

16      Adnoddau – Costau technegol, stiwdios, offer camera, sain a golygu ayb

17      Gweinyddu – Staff gweinyddol, costau cynhaliaeth ac yswiriant.

18      Dan y model presennol mae’r cyfrifoldeb tros wariant y tair elfen uchod yn cael ei phasio gan S4C i’r cwmnïau cynhyrchu. Gyda staff materion busnes y sianel yn goruchwylio’r gwariant.

19      Mae swmp arall o wariant S4C, 14% sef oddeutu £12miliwn yn mynd ar ddosbarthu’r cynnwys a’r holl waith perthnasol sydd ynghlwm a hyn.

20      Mae’r gweddill, 4% sef tua £3.5miliwn, yn mynd ar weinyddiaeth, staff comisiynu a’r adrannau materion busnes sydd ynghlwm, cyfreithiol, cyllid yn ogystal â’r adrannau dadansoddi, marchnata a chorfforaethol.

21      Yw’r gyllideb bresennol yn ddigonol? Ydi’r £84miliwn yn cynnig gwerth am arian? Buasai cyllidebau o £40miliwn, £80miliwn neu £120 o filiynau, sef be fyddai cyllideb S4C heddiw mewn termau real cyn y toriadau o 40% dros y blynyddoedd diwethaf, yn cynnig tri gwasanaeth gydag opsiynau tra gwahanol.

22      Felly beth am ystyried y genres. Ar hyn o bryd mae gwariant blynyddol S4C ar gynnwys fel y canlyn

23      Drama £17.4miliwn (gan gynnwys taliadau i’r BBC am benodau ychwanegol o Bobol y Cwm) - Ffeithiol a materion cyfoes £16.5miliwn - Adloniant, cerddoriaeth a chelfyddydau £13miliwn - Chwaraeon £9.7miliwn - Plant £6.7miliwn.

24      Mae bron i £4miliwn yn cael ei wario ar bryniannau ac ail ddarllediadau.

25      Oes un genre yn bwysicach na’r llall? A fydda’i Chymry ar eu colled heb chwaraeon gyda sylwebaeth yn y Gymraeg? A yw hi’n neud synnwyr i wario bron i £10miliwn yn fwy ar ddrama nag yr ydym ar raglenni i blant a phobol ifanc sef cynulleidfa’r dyfodol?

26      Rhaid gofyn y cwestiwn sylfaenol, pa fath o wasanaeth sydd ei angen ar gynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith? Pa fath o wasanaeth sy’n berthnasol o 2020 ymlaen? Sut gall darpariaeth cynnwys yn y Gymraeg helpu at gyrraedd nod llywodraeth Cymru o gyrraedd 1,000,000 o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?

27      Yn ôl yn 1982 darparu un sianel oedd yn cynnig arlwy i bawb o blant oedran meithrin i neiniau a theidiau, teuluoedd a phobol yn eu harddegau, dysgwyr a’r di Gymraeg oedd y model cywir. Dyma oedd yr un arlwy a gynigwyd gan BBC1 ag ITV yr adeg honno. Erbyn heddiw mae’r BBC wedi esblygu i gynnig naw sianel gyda rhan helaeth o’i hen gatalog ar gael i wylio trwy sianeli fel Dave, Gold ac Alibi ar UKTV, mae gan ITV saith sianel erbyn hyn, gan gynnwys cartrefi penodol i’w ail ddarllediadau. Mae gan y BBC ag ITV tair sianel i blant rhyngddynt. Mae gan y ddau trwy’r BBC iPlayer a ITV hub llwyfannau digidol ar gyfer dosbarthu eu cynnwys ar amryw o blatfformau a dyfeisiadau. Mwy am hynny yn y man.

28      Dyw un sianel deledu i wasanaethu pawb ddim yn briodol bellach. Mae angen gwasanaeth sy’n galluogi’r gynulleidfa i fedru darganfod cynnwys sy’n apelio, mae angen darparu swmp o gynnwys safonol, mae angen darparu pyrth cynnwys perthnasol. Mae angen cynnig cynnwys yn y Gymraeg tu hwnt i’r gofod darlledu draddodiadol, cynnwys sydd wedi ei greu yn bwrpasol ar gyfer llwyfannau newydd, cyfeirio rwyf at y rhwydweithiau cymdeithasol yn bennaf.

29      Modelau cynhyrchu a dosbarthu newydd – Gwneud llai yn well.

30      Bues yn ddigon ffodus i ymweld â EITB darlledwr cyhoeddus gwlad y Basg yn Bilbao yn 2015. Mae eu model cynhyrchu yn berthnasol iawn i ni yma yng Nghymru. Maent yn darparu cynnwys teledu a radio yn Sbaeneg a Basgeg o’r un adeilad yng nghalon Bilbao, mae’r staff yn gweithio ar draws y ddwy iaith a disgyblaeth, mae EITB yn berchen ar ag yn darparu adnoddau i’r sector gynhyrchu trwy eu stiwdios yn yr adeilad sy’n golygu bod costau’r adnoddau ddim yn cael eu rhannu a’r cwmnïau cynhyrchu.

31      Mae’r model cynhyrchu hefyd yn arwain at bwyslais gwahanol o gynhyrchu, mae cryn dipyn o raglenni trafodaeth lle gall y gynulleidfa ymwneud a’r cynnwys a’r pynciau, darlledu gwasanaeth cyhoeddus go iawn. Mae’r newid pwyslais hyn yn golygu costau cynhyrchu'r awr isel. Ond maent yn gwario arian sylweddol ar uchelfannau yn eu hamserlen, rhaglenni adloniant tebyg i I’m a Celebrity, operau sebon a chwaraeon o wlad y Basg.

32      Erbyn heddiw mae costau adnoddau ac offer darlledu wedi cyrraedd pwynt lle gall y dyn neu ddynes ar y stryd bod mewn sefyllfa i feddu ar offer oedd angen morgais i brynu deng mlynedd yn ôl.

33      Gall cydweithio agosach rhwng radio, theledu a’r sector ddigidol yn y Gymraeg cynnig cyfleoedd i ddatblygu cynnwys newydd, perthnasol a chyffrous a chynnig arbedion ariannol sylweddol.

34      Problem sylfaenol bresennol S4C, a’r hyn sy’n achosi problemau o safbwynt maint eu cyllid, yw’r amserlen unionlin a’r angen i’w lenwi, oddeutu 16/17 awr y dydd, 365 dydd y flwyddyn. Rwyf eisoes wedi cyfeirio at y broblem o ail ddarllediadau, 57% o’r amserlen ar hyn o bryd, rwyf hefyd wedi cyfeirio at y ffaith bod BBC ag ITV gyda gofodau ychwanegol ar gyfer ail ddangos cynnwys tu hwnt i’r prif sianeli a’r amserlen bresennol. Mae datblygiad iPlayer y BBC a’r llwyfannau cynnwys ychwanegol gan “sianeli” eraill yn golygu fod y gwylio eto o gynnwys yn arferiad naturiol i gynulleidfaoedd heddiw. Dyw S4C hyd yma ddim wedi bod yn fodlon buddsoddi arian digonol ar greu llwyfan dosbarthu eu hunain tu hwnt i “Clic” ar y we a thrwy Ap ar gyfer dyfeisiadau symudol, yn wir er mwyn gwneud hyn bydd y gost yn waharddol oherwydd isadeiledd presennol y sianel. Mae cynnwys S4C ar gael i wylio trwy’r iPlayer ond dyw’r sianel, na’r cynnwys, ddim yn derbyn yr un statws a chynnwys y BBC sy’n golygu fod amlygrwydd ac o’i herwydd y gallu i’w ddarganfod yn her.    

35      Mae’r newid mwyaf yn y gofod “darlledu” wedi dod o gyfeiriad gwbl wahanol, Netflix ag Amazon, cwmnïau sy’n dosbarthu cynnwys trwy’r rhyngrwyd i setiau deledu a dyfeisiadau symudol. Mae YouTube wedi cyhoeddi ym mis Chwefror 2017 eu bod hwythau yn symud i’r gofod “teledu” ar alw. Gydag argaeledd band llydan cyflym iawn yn bron i bob cartref yng Nghymru erbyn diwedd 2017, mae’r gallu i gwmnïau o’i bath fwyta siâr o gynulleidfa S4C, yn enwedig ymysg y “millennials” yn cynyddu. Taflwch i’r bowlen y ffrwydrad yn y defnydd gan gynulleidfaoedd o wylio cynnwys trwy rwydweithiau cymdeithasol. Mae’r ystadegau, a gyhoeddwyd gan y sianel yn Ionawr 2017, ar y lefel o wylio o gynnwys S4C ar Facebook a llwyfannau digidol YouTube a Twitter yn ystod mis Rhagfyr 2016, 2,200,000, cynnydd o 300% o fis Awst yr un flwyddyn, yn brawf o hyn, ac mae angen canmol S4C am arloesi yn y gofod hwn.

36      Er bod y gwylio unionlin yn aros yn ei unfan ag am ddirywio wrth i’r gynulleidfa 65+ mynd yn hun, mae’r potensial o gyrraedd cynulleidfaoedd iau yn amlwg, gyda’r cynnwys iawn ar y llwyfannau iawn.

37      Be sy’n atynnu pobol at Netflix a gwasanaethau ffrydio cynnwys? Beth yw’r cynnwys mwyaf poblogaidd ar yr iPlayer? Cynnwys o safon, dramâu drudfawr.

38      Roedd y gost o gynhyrchu dwy gyfres o House of Cards gan Netflix, 26 pennod awr, yn gyfatebol i gyllid blynyddol S4C yn ei gyfanrwydd, oddeutu £82miliwn.

39      Mae’r oes o ddewis cynnwys ar sail iaith yn unig wedi hen basio, rydym oll yn rhan o gynulleidfa ryngwladol. I gystadlu yn y maes mae angen sicrhau cynnwys o safon a pherthnasedd yn y Gymraeg, a sicrhau fod arian digonol ar gael i’w hyrwyddo yn y manau cywir a pherthnasol. Mae angen sicrhau fod cynnwys Cymraeg ar gael i wylio ar-alw o fewn ffenestri hawliau ehangach, blynyddoedd yn lle 35 diwrnod. Bydd cost yn perthyn i hyn.

40      Felly i ateb y 5 pwynt.

41      Arian digonol - Mae’n dibynnu’n llwyr ar y gwasanaeth mwyaf priodol am yr oes yr ydym yn byw ynddi heddiw. O ddechrau o’r newydd a datblygu model busnes newydd gellir cynnig gwasanaeth arloesol a safonol am £84,000,000. Mae’r syniad o ariannu allan o’r ffi drwydded yn gwbl addas, ac os gall S4C y dyfodol darparu cynnwys ar gyfer y byd addysg yn y ddwy iaith fel rhan naturiol o’i llif gwaith gall hyn gwneud yr achos am ariannu ychwanegol.

42      Mae angen i ni fel Cymru a sector cynhyrchu fod yn fwy uchelgeisiol wrth greu refeniw ychwanegol ar gefn y cynnwys rydym yn creu. Mae angen yr uchelgais gall swmp o’r cynnwys y greuwyd yma yng Nghymru, yn y Gymraeg, fod a gwerth a pherthnasedd ar y farchnad ryngwladol. 

43      Gall sefydlu Corff Cyhoeddi Cymraeg sydd yn gyfrifol am oruchwylio porth cynnwys o’r newydd fel Netflix yn y Gymraeg sicrhau fod Cymru a’r iaith Gymraeg yn arwain y ffordd wrth ddatblygu model newydd ar gyfer gwasanaeth dosbarthu cyhoeddus yn lle’r gwasanaeth darlledu cyhoeddus presennol. Yn dod a gwaith presennol S4C, y BBC ac asiantaethau perthnasol eraill fel cyngor y celfyddydau a’r cyngor llyfrau efo’i gilydd.

44      Cylch gwaith statudol – Eto yn ddibynnol yn llwyr ar y model sy’n cael ei ddatblygu ar gyfer y dyfodol, heb wybod beth yw’r model yna mae’n anodd rhoi barn, ond yn amlwg mae angen iddo adlewyrchu'r oes yr ydym yn byw ynddi heddiw a bod yn addas ar gyfer y newidiadau sydd ar dro. Mae angen gwarantu gwasanaethau newyddion a phlant gwir aml blatfform o fewn unrhyw gylch gwaith statudol newydd.

45      Llywodraethiant – Fe ddylai Cymru fod digon aeddfed erbyn i hyn i gymryd gofal dros y cyfryngau, mae angen i’r llywodraethiant hyn ymestyn tu hwnt i’r ffiniau “darlledu” presennol i gynnwys ar rhwydweithiau cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddi ar-lein, boed yn wefannau newyddion neu “sianeli deledu”.

46      Perthynas a’r BBC – Awgrymaf yn gryf bod y pwyllgor yn ymweld ag EITB yng ngwlad y Basg i weld sut mae darlledwr cyhoeddus o fewn “cenedl” sydd â lefel uchel o ddatganoli yn gweithredu, mewn dwy iaith a mwy nac un cyfrwng.

47      Gall sefydlu Corff Cyhoeddi Cymraeg o’r newydd gynnig ateb i’r pum pwynt mae’r ymgynghoriad yma wedi gosod fel ffocws. Gellir sefydlu canolfannau cynnwys mewn mwy nag un lleoliad yng Nghymru a thrwy hynny sicrhau presenoldeb a gwelededd corfforol ym mhob cornel o’r wlad ac nid mewn dau leoliad oddi'r M4 a thrwy hyn sicrhau fod y Gymraeg yn cael ei weld fel iaith a diwylliant gymunedol byw.

48      Gwelededd S4C – Pa hyd sydd i oes yr EPG? Be sydd wir angen sicrhau yw bod modd darganfod cynnwys yn y Gymraeg mewn byd gynyddol ddigidol. Bydd pwyso botymau ar “remote” yn hen hanes yn gynt na’r disgwyl, darganfod trwy lais yw’r dyfodol, mae hyn yn her a bygythiad i’r Gymraeg, mae angen buddsoddiad i sicrhau technoleg adnabod lleferydd safonol yn y Gymraeg. Sicrhau gwelededd o fewn llwyfannau cyfoes fel Apple TV, YouTube a Facebook fydd y flaenoriaeth.